Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2014 Rhif (Cy. )
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer microsglodynnu cŵn yn orfodol fel dull o adnabod ac ar gyfer cofrestru’r microsglodyn a manylion ceidwad y ci mewn cronfa ddata.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gi bach a gaiff ei eni ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym gael ei ficrosglodynnu cyn iddo droi’n 56 diwrnod oed neu cyn iddo gael ei drosglwyddo i geidwad newydd, pa un bynnag yw’r cynharaf.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gi y mae ei geidwad yn newid ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym gael ei ficrosglodynnu, ac i’r ceidwad sy’n trosglwyddo ddiweddaru’r gronfa ddata y mae’r microsglodyn wedi ei gofrestru arni gyda manylion cyswllt y ceidwad newydd.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ci llawndwf gael ei ficrosglodynnu heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2015.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn wedi’u mewnforio gael eu microsglodynnu.
Mae rheoliad 7 yn esemptio cŵn o’r gofyniad microsglodynnu o dan y Rheoliadau hyn os yw ceidwad y ci ond yn ymweld â Chymru am gyfnod nad yw’n hwy na 30 o ddiwrnodau.
Mae rheoliad 8 yn creu gweithdrefn sy’n caniatáu i filfeddyg gael ardystio bod ci yn esempt o’r gofyniad i ficrosglodynnu ar sail ei iechyd.
Mae rheoliad 9 yn nodi pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chofnodi mewn cronfa ddata.
Mae rheoliad 10 yn creu troseddau o fethu cydymffurfio â rheoliadau 3, 4, 5 a 6.
Mae rheoliad 11 yn darparu bod y Rheoliadau i gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
Mae rheoliad 12 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.